Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?
Series:
Dyma gyfrol syn ymdrin a hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolair cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan ir Cymry drafod pynciaur dydd yn
NaN
VOLUME
Welsh
Paperback
Dyma gyfrol syn ymdrin a hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolair cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan ir Cymry drafod pynciaur dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neun adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth - mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gwyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethur Cymry yn eu gwlad fabwysiedig. About the AuthorMae Rhiannon Williams yn ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Harvard yn ymchwilio ac yn ymddiddori ym maes ymchwil Cymry America a Chymraeg proffesiynol/byd gwaith.
Price Comparison [India]
In This Series
Bestseller Manga
Trending NEWS